Teyrngedau i gyn Esgob Bangor Saunders Davies

  • Cyhoeddwyd
Esgob SaundersFfynhonnell y llun, Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o’r llun,

Esgob Saunders (chwith) gyda'i ragflaenwyr fel Esgob Bangor, Barry Morgan (canol) a'r diweddar Cledan Mears

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i gyn Esgob Bangor a fu farw ddydd Gwener yn 80 oed.

Fe wnaeth Esgob Saunders Davies wasanaethu fel Esgob Bangor am bum mlynedd cyn ei ymddeoliad yn 2004.

Roedd ei weinidogaeth gyfan, dros 40 mlynedd, yn yr Eglwys yng Nghymru, yn bennaf yn Esgobaeth Bangor.

Dywedodd Archesgob Cymru, John Davies, ei fod yn 'arwyddocaol' fod yr Esgob Saunders wedi marw ar ddydd Gwener y Groglith.

'Tristwch'

Dywedodd: "Bydd y newyddion am farwolaeth yr Esgob Saunders Davies yn achosi tristwch i lawer yn yr Eglwys yng Nghymru lle bu'n gwasanaethu'n ffyddlon am 40 mlynedd.

"Roedd Saunders yn unigolyn addfwyn, sanctaidd a gostyngedig, llawn dysgeidiaeth, gyda meddwl craff a chalon gynnes."

Ychwanegodd Esgob Bangor, Andy John, "Bu i Saunders wasanaethu'r esgobaeth hon yn ffyddlon fel periglor, archddiacon ac esgob.

"Mae'n gweddïau a'n cydymdeimlad hefo Cynthia, Siôn, Angharad a'u teuluoedd. Mae Cymro da ac ysbrydol wedi mynd at ei Arglwydd. Boed iddo orffwys mewn tangnefedd ac atgyfodi mewn gogoniant," Meddai.

Iaith Gymraeg

Graddiodd yr Esgob Saunders, o Brifysgol Cymru, Bangor, Coleg Selwyn, Caergrawnt, a Phrifysgol Bonn (Yr Almaen).

Fe'i hyfforddodd ar gyfer ordeinio yng Ngholeg Mihangel Sant, Llandaf, a dechreuodd ei weinidogaeth fel curad yng Nghaergybi.

Roedd y Gymraeg yn iaith gyntaf iddo ac yn 1983, fe'i penodwyd fel Ficer yr eglwys Gymraeg yng Nghaerdydd, Eglwys Dewi Sant, lle bu'n gwasanaethu am 10 mlynedd.

Dychwelodd i'r gogledd fel Rheithor Criccieth ac Archddiacon Meirionnydd. Ym 1999 fe'i hetholwyd yn Esgob Bangor, lle bu'n gwasanaethu tan ei ymddeoliad yn 2004.

Yn ystod ei weinidogaeth, cadeiriodd Esgob Saunders y grŵp a ddatblygodd gynllun iaith Gymraeg yr Eglwys yng Nghymru.